3. Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr Arglwydd yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.
4. A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa'r Philistiaid, yr oedd craig serth o'r naill du i'r bwlch, a chraig serth o'r tu arall i'r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene.
5. A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a'r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea.
6. A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa'r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni: canys nid oes rwystr i'r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig.
7. A'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon.
8. Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.
9. Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy.
10. Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni.
11. A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa'r Philistiaid. A'r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o'r tyllau y llechasant ynddynt.