1 Samuel 14:18-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Duw y pryd hynny gyda meibion Israel.)

19. A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â'r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law.

20. A Saul a'r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i'r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno.

21. Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda'r Philistiaid o'r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i'r gwersyll o'r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.

22. A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o'r Philistiaid; hwythau hefyd a'u herlidiasant hwy o'u hôl yn y rhyfel.

23. Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw; a'r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.

24. A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion: Felly nid archwaethodd yr un o'r bobl ddim bwyd.

25. A'r rhai o'r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir.

26. A phan ddaeth y bobl i'r coed, wele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw.

27. Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a'i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a'i lygaid a oleuasant.

28. Yna un o'r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A'r bobl oedd luddedig.

29. Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oherwydd i mi archwaethu ychydig o'r mêl hwn:

1 Samuel 14