1 Samuel 13:17-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tua ffordd Offra, tua gwlad Sual;

18. A'r fyddin arall a drodd tua ffordd Beth-horon: a'r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tua dyffryn Seboim, tua'r anialwch.

19. Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o'r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn.

20. Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymu bob un ei swch, a'i gwlltwr, a'i fwyell, a'i gaib.

21. Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y picffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu'r symbylau.

22. Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.

1 Samuel 13