1 Samuel 12:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a'r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi.

13. Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a'r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi.

14. Os ofnwch chwi yr Arglwydd, a'i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y byddwch chwi, a'r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw.

15. Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16. Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi.

17. Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr Arglwydd; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr Arglwydd, yn gofyn i chwi frenin.

18. Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd; a'r Arglwydd a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a'r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel yn ddirfawr.

19. A'r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.

20. A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, ond gwasanaethwch yr Arglwydd â'ch holl galon;

21. Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni'ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.

22. Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i'r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.

23. A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.

24. Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â'ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.

1 Samuel 12