1 Samuel 12:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.

2. Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o'ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o'ch blaen chwi o'm mebyd hyd y dydd hwn.

3. Wele fi; tystiolaethwch i'm herbyn gerbron yr Arglwydd, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a'i talaf i chwi.

4. A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.

5. Dywedodd yntau wrthynt, Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A'r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.

6. A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a'r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft.

7. Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf รข chwi gerbron yr Arglwydd, am holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i'ch tadau.

8. Wedi i Jacob ddyfod i'r Aifft, a gweiddi o'ch tadau chwi ar yr Arglwydd, yna yr Arglwydd a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o'r Aifft, ac a'u cyfleasant hwy yn y lle hwn.

1 Samuel 12