Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a'u drylliodd, ac a'u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i'w wartheg ef. Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.