19. A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a'ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.
20. A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin.
21. Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef.
22. Am hynny y gofynasant eto i'r Arglwydd, a ddeuai y gŵr yno eto. A'r Arglwydd a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn.
23. A hwy a redasant, ac a'i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o'i ysgwydd i fyny yn uwch na'r holl bobl.
24. A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A'r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo'r brenin.