1 Samuel 10:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef, ac a'i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a'th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?

2. Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i'w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab?

1 Samuel 10