8. Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?
9. Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd.)
10. Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd.
11. Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a'm cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i'th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i'r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.
12. A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd, i Eli ddal sylw ar ei genau hi.
13. A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a'i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw.
14. Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt.
15. A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd.
16. Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a'm blinder, y lleferais hyd yn hyn.
17. Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef.
18. A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i'w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.
19. A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr Arglwydd; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i'w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a'r Arglwydd a'i cofiodd hi.
20. A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi.
21. A'r gŵr Elcana a aeth i fyny, a'i holl dylwyth, i offrymu i'r Arglwydd yr aberth blynyddol, a'i adduned.
22. Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth.
23. Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.
24. A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a'i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a'i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a'r bachgen yn ieuanc.
25. A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.
26. A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr Arglwydd.
27. Am y bachgen hwn y gweddïais; a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo: