15. A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd.
16. Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a'm blinder, y lleferais hyd yn hyn.
17. Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef.
18. A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i'w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.
19. A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr Arglwydd; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i'w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a'r Arglwydd a'i cofiodd hi.
20. A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi.
21. A'r gŵr Elcana a aeth i fyny, a'i holl dylwyth, i offrymu i'r Arglwydd yr aberth blynyddol, a'i adduned.
22. Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth.
23. Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.
24. A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a'i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a'i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a'r bachgen yn ieuanc.
25. A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.
26. A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr Arglwydd.
27. Am y bachgen hwn y gweddïais; a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo:
28. Minnau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i'r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.