1 Pedr 5:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni'r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.

10. A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo.

11. Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.

12. Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw'r hwn yr ydych yn sefyll ynddo.

13. Y mae'r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig รข chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i.

1 Pedr 5