1 Pedr 5:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i'r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i'ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn รข gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.

6. Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas:

7. Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi.

8. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio'r neb a allo ei lyncu.

9. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni'r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.

10. A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo.

11. Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.

1 Pedr 5