1 Pedr 3:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i'w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair,

2. Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.

3. Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wisgad dillad;

1 Pedr 3