1 Pedr 2:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air,

2. Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef:

3. Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.

4. At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr.

5. A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.

6. Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a'r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir.

7. I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i'r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,

8. Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i'r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd.

9. Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau'r hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:

1 Pedr 2