1 Ioan 4:5-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Hwynt-hwy, o'r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a'r byd a wrendy arnynt.

6. Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.

7. Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.

8. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.

9. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.

10. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.

1 Ioan 4