1 Ioan 4:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A phob ysbryd a'r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a'r awron y mae efe yn y byd eisoes.

4. Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw'r hwn sydd ynoch chwi na'r hwn sydd yn y byd.

5. Hwynt-hwy, o'r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a'r byd a wrendy arnynt.

6. Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.

7. Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.

1 Ioan 4