1 Ioan 4:20-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?

21. A'r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.

1 Ioan 4