1 Ioan 3:6-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a'r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef.

7. O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn.

8. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.

1 Ioan 3