1 Ioan 1:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd;

2. (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi'r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)

3. Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef Iesu Grist.

4. A'r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

5. A hon yw'r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.

6. Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd:

1 Ioan 1