1 Cronicl 8:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a'u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud.

8. Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd.

9. Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham,

10. A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl.

11. Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal.

12. A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi.

13. Bereia hefyd, a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath.

1 Cronicl 8