1. A meibion Issachar oedd, Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar.
2. A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant.
3. A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll.