51. Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,
52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,
53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
54. A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.
55. A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a'i meysydd pentrefol o'i hamgylch.
56. Ond meysydd y ddinas, a'i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne.
57. Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a'i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a'u meysydd pentrefol,
58. A Hilen a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,
59. Ac Asan a'i meysydd pentrefol, a Bethsemes a'i meysydd pentrefol:
60. Ac o lwyth Benjamin; Geba a'i meysydd pentrefol, ac Alemeth a'i meysydd pentrefol, ac Anathoth a'i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg.
61. Ac i'r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o'r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren.
62. Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd.
63. I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.
64. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.