1 Cronicl 5:7-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A'i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia,

8. A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon.

9. Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i'r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead.

10. Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.

11. A meibion Gad a drigasant gyferbyn รข hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha:

12. Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan.

1 Cronicl 5