1 Cronicl 29:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A'r bobl a lawenhasant pan offryment o'u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i'r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.

10. Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

11. I ti, Arglwydd, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, Arglwydd, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.

12. Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.

13. Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.

14. Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoesom i ti.

15. Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros.

16. O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i'th enw sanctaidd, o'th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.

17. Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd.

18. Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.

19. A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a'th ddeddfau, ac i'w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.

20. Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A'r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i'r Arglwydd, ac i'r brenin.

1 Cronicl 29