1 Cronicl 29:7-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn.

8. A chyda'r hwn y ceid meini, hwy a'u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd, trwy law Jehiel y Gersoniad.

9. A'r bobl a lawenhasant pan offryment o'u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i'r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.

10. Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

11. I ti, Arglwydd, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, Arglwydd, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.

12. Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.

13. Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.

14. Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoesom i ti.

1 Cronicl 29