4. Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai:
5. Yr aur i'r gwaith aur, a'r arian i'r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i'r Arglwydd?
6. Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar,
7. Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn.
8. A chyda'r hwn y ceid meini, hwy a'u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd, trwy law Jehiel y Gersoniad.
9. A'r bobl a lawenhasant pan offryment o'u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i'r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.
10. Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
11. I ti, Arglwydd, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, Arglwydd, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.
12. Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.
13. Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.