1 Cronicl 29:29-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,

30. Gyda'i holl frenhiniaeth ef, a'i gadernid, a'r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.

1 Cronicl 29