1 Cronicl 28:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a'm pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd, ac i ystôl draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu.

3. Ond Duw a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dŷ i'm henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist.

4. Er hynny Arglwydd Dduw Israel a'm hetholodd i o holl dŷ fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel:

5. Ac o'm holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd, ar Israel.

6. Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a'm cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.

7. A'i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a'm barnedigaethau i, megis y dydd hwn.

8. Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr Arglwydd, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.

9. A thithau Solomon fy mab, adnebydd Dduw dy dad, a gwasanaetha ef â chalon berffaith, ac â meddwl ewyllysgar: canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a'i cei; ond os gwrthodi ef, efe a'th fwrw di ymaith yn dragywydd.

10. Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a'th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr: ymgryfha, a gwna.

11. Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth, a'i dai, a'i selerau, a'i gellau, a'i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa,

1 Cronicl 28