13. Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
14. Efe a roddes o aur wrth bwys, i'r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i'r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth:
15. Sef pwys y canwyllbrenni aur, a'u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyllbren ac i'w lampau: ac i'r canwyllbrennau arian wrth bwys, i'r canhwyllbren ac i'w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren.
16. Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i'r byrddau arian;
17. Ac aur pur i'r cigweiniau, ac i'r ffiolau, ac i'r dysglau, ac i'r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i'r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch;
18. Ac i allor yr arogl‐darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd.
19. Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr Arglwydd i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn.
20. A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac nac arswyda: canys yr Arglwydd Dduw, fy Nuw i, fydd gyda thi; nid ymedy efe â thi, ac ni'th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
21. Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ Dduw, a chyda thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a'r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.