5. Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
6. Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef.
7. Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
8. Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
9. Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
10. Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
11. Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o'r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
12. Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o'r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
13. Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o'r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
14. Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
15. Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.