1 Cronicl 27:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau‐cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a'u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o'r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn.

2. Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain.

3. O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf.

4. Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o'i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

5. Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

1 Cronicl 27