8. Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom: hwynt‐hwy, a'u meibion, a'u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed‐edom.
9. Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol.
10. O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a'i gosododd ef yn ben;)
11. Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg.
12. Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd.
13. A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth.
14. A choelbren Selemeia a syrthiodd tua'r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a'i goelbren ef a ddaeth tua'r gogledd.
15. I Obed‐edom tua'r deau, ac i'w feibion, y daeth tŷ Asuppim.
16. I Suppim, a Hosa, tua'r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.
17. Tua'r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua'r gogledd pedwar beunydd, tua'r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau.
18. A Pharbar tua'r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar.
19. Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.
20. Ac o'r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig.
21. Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli.
22. Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd.
23. O'r Amramiaid, a'r Ishariaid, o'r Hebroniaid, a'r Ussieliaid:
24. A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau.
25. A'i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau.
26. Y Selomith hwnnw a'i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a'r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a thywysogion y llu.
27. O'r rhyfeloedd ac o'r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd.