22. Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd.
23. O'r Amramiaid, a'r Ishariaid, o'r Hebroniaid, a'r Ussieliaid:
24. A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau.
25. A'i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau.
26. Y Selomith hwnnw a'i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a'r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a thywysogion y llu.
27. O'r rhyfeloedd ac o'r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd.
28. A'r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a'i frodyr.