1 Cronicl 24:3-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A Dafydd a'u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth.

4. A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth.

5. Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda'r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar.

6. A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a'u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a'r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a'r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar.

7. A'r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a'r ail i Jedaia,

8. Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,

9. Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin,

10. Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia,

11. Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia,

12. Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim,

1 Cronicl 24