1 Cronicl 24:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.

2. A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant.

3. A Dafydd a'u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth.

4. A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth.

5. Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda'r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar.

1 Cronicl 24