7. A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth.
8. A meibion Ethan; Asareia.
9. A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.
10. A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;
11. A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;
12. A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;
13. A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,
14. Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,
15. Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed:
16. A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri.
17. Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.
18. A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon.
19. A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.