1 Cronicl 2:5-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Meibion Phares; Hesron a Hamul.

6. A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.

7. A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth.

8. A meibion Ethan; Asareia.

9. A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.

10. A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;

11. A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;

12. A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;

13. A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,

14. Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

15. Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed:

16. A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri.

17. Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.

1 Cronicl 2