1 Cronicl 2:41-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.

42. Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd, Mesa ei gyntaf‐anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron.

43. A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema.

44. A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai.

45. A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur.

46. Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases.

47. A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff.

48. Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana.

49. Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.

50. Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur, cyntaf‐anedig Effrata; Sobal tad Ciriath‐jearim,

51. Salma tad Bethlehem, Hareff tad Beth‐gader.

52. A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath‐jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid,

53. A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid, a'r Puhiaid, a'r Sumathiaid, a'r Misraiaid: o'r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a'r Esthauliaid.

54. Meibion Salma; Bethlehem, a'r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid.

55. A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethant o Hemath, tad tylwyth Rechab.

1 Cronicl 2