4. A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.
5. Meibion Phares; Hesron a Hamul.
6. A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.
7. A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth.
8. A meibion Ethan; Asareia.
9. A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.
10. A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;
11. A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;
12. A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;
13. A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,