1 Cronicl 2:19-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.

20. A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.

21. Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a'i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.

22. A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.

23. Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a'i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead.

24. Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.

25. A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa.

26. A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a'i henw Atara: hon oedd fam Onam.

27. A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer.

28. A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.

29. Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.

30. A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant.

31. A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.

32. A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi‐blant.

33. A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.

34. Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a'i enw Jarha.

35. A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Attai.

36. Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad.

37. A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed,

38. Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia,

1 Cronicl 2