19. A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.
20. A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.
21. Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a'i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.
22. A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.
23. Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a'i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead.
24. Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.