1 Cronicl 2:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon,

2. Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.

3. Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf‐anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd, ac efe a'i lladdodd ef.

4. A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.

5. Meibion Phares; Hesron a Hamul.

6. A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.

7. A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth.

8. A meibion Ethan; Asareia.

9. A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.

10. A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;

11. A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;

12. A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;

13. A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,

14. Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

1 Cronicl 2