4. Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a'u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, ac a'u gyrrodd hwynt ymaith.
5. A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i'w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.
6. Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria‐maacha ac o Soba.
7. A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a'i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o'u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.
8. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.
9. A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a'r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o'r neilltu yn y maes.