1. Ac ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meibion Ammon farw; a'i fab a deyrnasodd yn ei le ef.
2. A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i'w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon, at Hanun, i'w gysuro ef.
3. A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?
4. Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a'u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, ac a'u gyrrodd hwynt ymaith.
5. A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i'w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.