1 Cronicl 18:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A darfu wedi hyn, i Dafydd daro'r Philistiaid, a'u darostwng hwynt, a dwyn Gath a'i phentrefi o law y Philistiaid.

2. Hefyd efe a drawodd Moab; a'r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.

3. Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates.

4. A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.

5. A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

6. A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A'r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth.

7. A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a'u dug hwynt i Jerwsalem.

8. Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â'r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a'r colofnau, a'r llestri pres.

9. A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;

10. Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i'w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a'i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.

1 Cronicl 18