1 Cronicl 16:6-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.

7. Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaff a'i frodyr.

8. Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.

9. Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.

1 Cronicl 16