19. Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;
20. A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;
21. Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o'u plegid hwy, gan ddywedyd,
22. Na chyffyrddwch â'm heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
23. Cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
24. Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a'i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.
25. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
26. Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
27. Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.
28. Moeswch i'r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
29. Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i'r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd.
30. Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo.
31. Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.
32. Rhued y môr a'i gyflawnder; llawenhaed y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo.
33. Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear.
34. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
35. A dywedwch, Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.
36. Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.