1 Cronicl 13:8-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, â'u holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag utgyrn.

9. A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi.

10. Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a'i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.

1 Cronicl 13