1 Cronicl 12:37-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid, ac o'r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.

38. Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a'r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.

39. A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy.

1 Cronicl 12