1 Cronicl 12:34-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain.

35. Ac o'r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.

36. Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela.

37. Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid, ac o'r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.

1 Cronicl 12